Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Ionawr 2021
Amser:
13. -
17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11083
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Mandy Jones AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Judith Cole, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru Ian Williams, Llywodraeth Cymru Debra Carter, Llywodraeth Cymru Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson Francis, Llywodraeth Cymru Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 2
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Judith Cole - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cyllid a Gweithlu Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru
Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu’r canlynol:
Diweddariadau ar wneud penderfyniadau o ran y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) a’r galw a ragwelir ar y gronfa;
Enghreifftiau o waith gwella a wnaed gan awdurdodau lleol a chynghorau tref a chynghorau cymuned mewn ymateb i’r pandemig, sy’n debygol o gael effeithiau cadarnhaol hirdymor ar gyfer y cymunedau;
Diweddariadau i’r Pwyllgor ar y gwaith rhwng Grŵp Gweithredu Canol Tref y Gweinidogion ac awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned, sy’n anelu at greu cadwyni cyflenwi lleol gan ddefnyddio busnesau bach.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 3
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru
Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru
4 Papurau i’w nodi
4.1 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl
4.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl.
4.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Cyfnod 3
4.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Cyfnod 3.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 28 Ionawr
5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyfer llywio ei adroddiad drafft.